skip to main menu | skip to content

Ensuring a fair Lottery for the nation
£27 billion for good causes
£40 billion in prizes

Cymraeg

Ein gwaith

Mae Comisiwn y Loteri Genedlaethol yn gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio’r Loteri Genedlaethol. Mae’r Comisiwn yn diogelu chwaraewyr ac unplygrwydd y Loteri, ac yn gwneud y defnydd gorau o arian i achosion da. Mae’r Comisiwn hefyd yn goruchwylio’’r gystadleuaeth am y drwydded i ddewis y sawl sy’n rhedeg y Loteri. Corff cyhoeddus anadrannol yw’r Comisiwn, a noddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac mae’n gweithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth. Ariennir gwaith y Comisiwn gan Gronfa Ddosbarthu’r Loteri Genedlaethol (NLDF).

Ein dyletswyddau statudol yw:

  • Sicrhau bod y Loteri Genedlaethol, a phob loteri sy’n rhan ohoni, yn cael ei rhedeg gyda phob priodoldeb dyledus;
  • Sicrhau bod buddiannau pawb sy’n cymryd rhan yn y Loteri’n cael eu diogelu; ac
  • Yn amodol ar y ddwy ddyletswydd hyn, gwneud ein gorau i sicrhau bod elw’r Loteri Genedlaethol mor fawr ag y bo modd.

Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddor y dylai siaradwyr Cymraeg gael eu trin ar y sail eu bod yn gydradd â siaradwyr Saesneg wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym gynllun Iaith Gymraeg yn ei le sy’n amlinellu sut y gweithredir hyn yn y Comisiwn trwy ddangos pa wasanaethau a\ fydd ar gael yn Gymraeg a sut y byddant yn cael eu darparu. Gallwch lawrlwytho’r cynllun ar du chwith y tudalen hwn.

Sut i gael gwybodaeth am y Loteri Genedlaethol yn Gymraeg

Mae fersiynau Cymraeg o wybodaeth i chwaraewyr megis rheolau a gweithdrefnau gemau ar gael gan arwerthwyr y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Neu, gallwch ofyn am gopïau trwy ffonio llinell y Loteri Genedlaethol ar 0845 9 100 000.

Beth i’w wneud os oes gennych gŵn neu ymholiad am y Loteri Genedlaethol

Os oes cwestiwn gennych, neu os ydych yn anfodlon ar unrhyw agwedd ar y Loteri Genedlaethol, dylech gysylltu â Camelot, sy’n rhedeg y Loteri Genedlaethol, yn y lle cyntaf:
Customer Operations
The National Lottery
PO Box 251
Watford
WD18 9BR
Llinell y Loteri Genedlaethol 0845 910 00 00
E-bost: complaints@national-lottery.co.uk

Beth i’w wneud os na chewch ateb boddhaol

Os nad ydych yn derbyn ateb boddhaol gallwch ofyn am gael rhoi sylw ar lefel uwch i’r cwyn o fewn Camelot, i reolwr yn y lle cyntaf ac yna i reolwr hŷn, os bydd angen. Os ydych yn dal yn anfodlon ar ateb Camelot, cysylltwch â’n tîm Diogelu Defnyddwyr, a fydd yn adolygu eich achos:

Consumer Protection
National Lottery Commission
4th Floor
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP

Ffôn: 0121 2306702 neu 0845 7125596 (codir am alwadau ar gyfraddau lleol, gall cost galwadau o ffonau symudol amrywio).
E-bost: consumerprotection@natlotcomm.gov.uk

Byddwn yn ymchwilio ac yn rhoi gwybod ichi am ganlyniad eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na allwn ymchwilio i’ch cwyn yn llawn o fewn y cyfnod hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn eich hysbysu am ein cynnydd. Sylwer na fydd y Comisiwn ond yn adolygu cwyn unwaith y byddwch wedi dilyn gweithdrefnau achwyn mewnol Camelot.

Beth i’w wneud os ydych am gwyno am Gomisiwn y Loteri Genedlaethol

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac o ansawdd uchel i chwaraewyr ac i aelodau’r cyhoedd. Os ydych yn anfodlon ar y gwasanaeth a gawsoch gennym, er enghraifft mewn perthynas â chŵyn am y Loteri Genedlaethol ymchwilwyd gennym ar eich rhan gallwch ysgrifennu at:

Christine Belai
Head of National Lottery Licensing and Enforcement
National Lottery Commission
4th Floor
Victoria Square House
Victoria Square
Birmingham
B2 4BP
E-bost: consumerprotection@natlotcomm.gov.uk

Dylech gyfeirio eich gohebiaeth yn glir at sylw Bryony Sheldon a nodi ei bod yn gŵyn. Byddwn yn ymchwilio ac yn rhoi gwybod ichi am ganlyniad eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os na allwn ymchwilio i’ch cwyn yn llawn o fewn y cyfnod hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn eich hysbysu am ein cynnydd.

Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon ar sut mae’r Comisiwn wedi ymdrin â’ch cwyn

Gobeithiwn y gall y Comisiwn ddelio â phob cwyn yn foddhaol. Fodd bynnag, os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch geisio cyngor gan yr Ombwdsmon Seneddol sy’n cynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion am gyrff cyhoeddus:

Parliamentary and Health Service Ombudsman
Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4QP
Ffôn: 0345 015 4033
Ffacs: 0300 061 4000
http://www.ombudsman.org.uk/cymraeg
E-bost: phso.enquiries@ombudsman.org.uk

Related downloads